Hyfforddiant mewn-tŷ
Mae hyfforddiant mewnol yn ddewis arall cyfleus a chost-effeithiol yn lle cyrsiau hyfforddiant cyhoeddus LABC. Mae’n digwydd yn eich lleoliad chi, rydych yn gwahodd eraill i fod yn bresennol ac yn rhannu’r gost. Mae’r LABC yn darparu’r hyfforddwr, y cynnwys, y deunydd gwaith, y taflenni a’r tystysgrifau DPP. Chi sy’n trefnu’r archebion, yn darparu lleoliad addas, arlwyo a chyfarpar.
Sut mae hyfforddiant mewnol yn gweithio:
Rydych yn penderfynu “cynnal” yr hyfforddiant ac yn darparu un pwynt cyswllt i bob gwaith gweinyddol gan gynnwys cadarnhau dyddiadau, ystafelloedd, arlwyo, enwau cynadleddwyr ac ati. Rydych yn darparu ac yn cadarnhau lleoliad addas ac arlwyo. Rhaid i’r ystafelloedd fod yn briodol i hyfforddiant manwl ffurfiol â byrddau/cadeiriau cyfforddus, preifatrwydd, distawrwydd, taflunydd a sgrin. Mae’r rhan fwyaf o gyrsiau’n addas i hyd at 50 o gynadleddwyr. Efallai y bydd uchafswm rhai cyrsiau gweithdy’n is.
Cost:
Arbedion enghreifftiol: Symiau damcaniaethol yw’r rhain ond maent yn enghreifftiau realistig o sut gall eich sefydliad ddefnyddio hyfforddiant mewnol i leihau cost y pen i hyfforddi eich staff eich hun. Er y gall fod costau ychwanegol am lety hyfforddwyr a theithio, mae’n dal i olygu y gellir trefnu hyfforddiant o safon uchel ac arbed hyd at 70%. Nid yw eich staff yn wynebu anghyfleustra a chost ychwanegol o orfod teithio eu hunain. Darperir pob cwrs diwrnod llawn a hanner diwrnod am gost Hyfforddiant Mewnol o ddim ond £995 + TAW. Nid yw’r pris hwn yn cynnwys costau teithio a llety hyfforddwyr; anfonebir y rhain i chi ar ôl y digwyddiad.
Hyfforddiant Mewnol – arbedion enghreifftiol:
£995.00 cost y cwrs + llogi ystafell
Arlwyo @ £7.50 y pen x 35 o gynadleddwyr…£262.50
Cyfanswm cost yr hyfforddiant… £1257.50 –Wedi’i rannu â 35 o gynadleddwyr = £35.92 y cynadleddwr
Cost gymharol mynychu cwrs cyhoeddus £ 150.00 y cynadleddwr
Arbediad o £114.08 y cynadleddwr
I gael mwy o wybodaeth neu i drefnu digwyddiad mewnol, cysylltwch â Marianne Stanton drwy ffonio 0207 091 6862.
Geirda:
&“Roedd y cyflwyniad yn rhagorol ac roedd y staff rheolaethi adeiladu o bob gradd a oedd yn bresennol yn ei werthfawrogi’n fawr” - Cyngor Swyddir Durham – ynglŷn â’u Hyfforddiant Mewnol ar Adeileddau Peryglus a Dymchwel