Skip to main content

Rydych yma

Categoriau a meini prawf y beirniaid

Sut mae Gwobrau’r LABC yn gweithio?

Mae Gwobrau Rhagoriaeth Adeiladu’r LABC yn broses dau gam sy’n dechrau ym mhob un o’n 12 rhanbarth mewn digwyddiadau sy’n dechrau yn y gwanwyn ac yn cael eu cynnal tan ganol yr haf.

Caiff enillwyr rhanbarthol eu rhoi’n awtomatig ar restr fer Rowndiau Terfynol yr LABC a gynhelir yn Llundain yn yr hydref.

Sut rydw i’n gwneud cais?

Bydd ein syrfewyr rheolaethi adeiladu’n enwebu cynlluniau a gwblhawyd yn ystod 2014 sydd wedi gwneud argraff dda arnynt, ond hoffem hefyd dderbyn ceisiadau gan ein cleientiaid.

Os ydych yn meddwl eich bod chi a’ch tîm wedi rhagori ar brosiect arbennig, neu bod gennych berthynas waith wych gyda syrfëwr neu dîm rheolaethi adeiladu, gallwch ymgeisio. Caiff pob cais ei ddilysu gan y Syrfëwr Rheolaethi Adeiladu dan sylw cyn cael ei gyflwyno i’r panel o feirniaid.

Categorïau ein Gwobrau

Ar gyfer Gwobrau 2015 (prosiectau a gwblhawyd yn 2014) gallwch wneud enwebiad mewn un o 12 categori; byddwn yn ceisio ardystiad ar gyfer pob hunan-enwebiad gan y syrfëwr LABC a fu’n ymwneud â’ch prosiect neu’r un yr ydych yn gweithio’n rheolaidd ag ef/â hi, felly mae’n hanfodol eich bod yn dweud wrthym pwy yw’r syrfëwr.

  1. Estyniad neu newid gorau i gartref sy’n bodoli
  2. Adeiladwr neu grefftwr traddodiadol lleol gorau
  3. Newid defnydd gorau mewn adeilad sy’n bodoli neu addasiad
  4. Cartref newydd unigol gorau
  5. Datblygiad tai newydd gorau
  6. Datblygiad tai cymdeithasol neu fforddiadwy newydd gorau
  7. Adeilad gwasanaethau cyhoeddus gorau
  8. Adeilad addysgol gorau
  9. Adeilad masnachol gorau
  10. Adeilad Cynhwysol Gorau
  11. Partneriaeth orau â thîm rheolaethi adeiladu awdurdod lleol
  12. Goruchwyliwr safle LABC y flwyddyn

Mae’r ffurflen gais yn eithaf syml; mewn categorïau penodol i safleoedd, bydd angen cod post y safle, manylion cyswllt tîm eich prosiect a rhai ffotograffau cydraniad uchel; ar gyfer yr Adeiladwr, Goruchwyliwr Safle a Phartneriaeth Orau yr oll y bydd angen i chi ei wneud yw dweud wrthym pam yr ydych yn meddwl eich bod yn haeddu Gwobr LABC! Ar ôl i chi fewngofnodi, bydd y ffurflen yn cadw’n awtomatig felly ni fydd angen i chi ei chwblhau ar un ymweliad. Cofiwch, cewch ymgeisio mewn mwy nag un categori ac os oes angen cymorth arnoch, ffoniwch ein tîm gwobrau ar 0207 091 6869.

Darllenwch eglurhad o bob un o’n categorïau a’r meini prawf beirniadu.